Maniffesto BABCP ar gyfer iechyd meddwl yng Nghymru

Published:
Campaigns
Response

Cymdeithas Seicotherapi Gwybyddol ac Ymddygiadol Prydain (BABCP) ydy’r sefydliad arweiniol ar gyfer Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) yn y Deyrnas Unedig ac Iwerddon ac mae gennym dros 26,000 o aelodau.

CBT ydy un o’r therapïau siarad mwyaf effeithiol ac sydd wedi’i seilio fwyaf ar dystiolaeth. Mae’n cael ei argymell yng Nghanllawiau NICE fel ymyriad ar gyfer mynd i’r afael â chyflyrau amrywiol, gan gynnwys anhwylderau gorbryder, iselder, Anhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD), trawma a symptomau cysylltiedig, anhwylderau bwyta, anhwylderau personoliaeth ymhlith eraill, yn ogystal ag er mwyn helpu pobl i ymdopi â symptomau nifer o gyflyrau eraill megis poen cronig.

Yn ogystal â gweithio i wella iechyd meddwl a lleddfu dioddefaint y rhai sy’n brwydro gydag amryw o gyflyrau, mae buddsoddi mewn therapïau siarad sy’n seiliedig ar dystiolaeth, megis CBT, yn cyfrannu at arbed arian cyhoeddus yn yr hirdymor gan mai problemau iechyd meddwl ydy achos pwysicaf anabledd ymhlith y boblogaeth sydd o oedran gweithio.

Maniffesto ar gyfer Iechyd Meddwl

Lawrlwythwch ein Maniffesto

Am beth rydym yn galw?
1. Cynyddu mynediad at therapïau seicolegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth i blant ac oedolion

Pam?

Nod Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol Cymru ydy lleihau anghydraddoldebau o safbwynt mynediad a phrofiad o ddarpariaeth iechyd meddwl gyda ffocws ar ymyrraeth gynnar. Mae’r llwybrau tuag at gael cefnogaeth iechyd meddwl yng Nghymru yn parhau’n anghyson gyda’r ddarpariaeth yn amrywio ar draws byrddau iechyd. Rydym yn credu bod Cymru yn haeddu mynediad cyson, prydlon at driniaethau seicolegol sydd wedi’u cymeradwyo gan NICE, megis CBT.

Mae mynediad at therapïau seicolegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn bwysig, nid yn unig i’r rhai sydd ag ymgyflwyniad seicolegol, ond hefyd i’r rhai sy’n profi trallod o ganlyniad i newidiadau bywyd neu gyflyrau iechyd hirdymor, boed rheiny’n rhai corfforol neu seicolegol.

Gallai mynediad at therapïau seicolegol sy’n seiliedig ar dystiolaeth, megis CBT, arbed arian i’r GIG hefyd. Yn 2019, amcangyfrifwyd bod iechyd meddwl gwael yn Lloegr yn costio £100 biliwn, sydd oddeutu 5% o GDP. Canfu astudiaeth ddiweddar gan LSE, ar gyfer pob punt sy’n cael ei gwario, fod Therapïau Siarad y GIG yn cynhyrchu budd ychwanegol o £5:50 i’r economi.

Mae angen:

Dylai’r Llywodraeth weithio i uno a chreu strwythurau a darpariaeth eglur ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru, gan roi blaenoriaeth i therapïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, megis CBT, yn unol ag argymhellion NICE. Bydd hyn yn lleihau’r anghysonderau presennol ar draws byrddau iechyd, gan wella tegwch o ran mynediad a galluogi ymyrraeth gynnar.

Mae angen hefyd i’r Llywodraeth gyflawni eu hymrwymiad i sefydlu mesurau canlyniadau llwybro ar gyfer therapïau seicolegol.

Dylai’r gwaith o gynllunio a dylunio’r gwasanaethau hyn gynnwys cydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad bywyd, yn unol â’r hyn a fynegwyd yn y strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol.

Pam?

Mae prinder therapyddion CBT yng Nghymru sydd yn gallu darparu therapïau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn arbennig CBT, yn iaith gyntaf cleientiaid. Mae’r diffyg llwybrau hyfforddi clir a swyddi sydd ar gael yn y GIG yn cael effaith ar ddewisiadau gyrfa’r rhai sydd eisiau gyrfa ym maes iechyd meddwl; ac mae hynny yn ei dro yn lleihau’r opsiynau i gleientiaid a chleifion gael mynediad at therapi yn eu dewis iaith.

Ar hyn o bryd, nid oes gan pob ymarferydd fynediad at hyfforddiant os ydynt yn awyddus i ddod yn therapydd CBT, ac mae safonau cyrsiau a goruchwyliaeth yn amrywio. Mae hyn yn arbennig o bwysig ar gyfer hyfforddiant pellach megis plant a phobl ifanc, ymgyflwyniadau cymhleth neu anhwylderau bwyta lle ceir diffygion o ran datblygu proffesiynol cyfredol.

Bydd y cynnydd mewn therapïau o ansawdd uchel sy’n seiliedig ar dystiolaeth, megis CBT, a’r cynnydd yn niferoedd therapyddion CBT hefyd yn helpu gyda lleihau rhestrau aros.

Mae angen:

Asesiad o’r gweithlu presennol wedi’i ddilyn gan strategaeth gweithlu sydd â llwybrau clir tuag at hyfforddiant, goruchwyliaeth, a sicrhau galluedd er mwyn sicrhau mynediad teg i ymyraethau CBT sy’n seiliedig ar dystiolaeth ar draws pob bwrdd ac ymddiriedolaeth iechyd. Mae angen cyllid digonol arnom hefyd ar gyfer swyddi i therapyddion CBT i allu gael gafael ar hyfforddiant mewn-swydd a datblygiad proffesiynol parhaus sy’n berthnasol i’w harbenigedd.

Dylai’r Llywodraeth hefyd ailystyried yr angen i therapyddion CBT sydd wedi cymhwyso a’u hachredu hefyd fod â phroffesiwn craidd a bod yn gofrestredig gyda chorff proffesiynol arall oherwydd y gall hyn fod yn amhriodol i therapyddion CBT.

Dylai’r Llywodraeth hefyd ystyried ehangu’r cynnig o gyrsiau sydd wedi’u hachredu gan BABCP yng Nghymru a gwneud achrediad gan y BABCP yn ofynnol er mwyn sicrhau y ceir cynnig cyson o ansawdd uchel ar draws pob bwrdd iechyd yng Nghymru, gan gynyddu argaeledd therapi CBT, gan gynnwys yn y Gymraeg.

Pam?

Datgelodd cais rhyddid gwybodaeth gan Mind yn 2024 fod oddeutu 2,000 o oedolion gyda phroblemau iechyd meddwl difrifol yn aros am fwy na 6 mis i gael mynediad at therapïau seicolegol arbenigol, gyda 750 arall yn aros am fwy na blwyddyn.

Mae asesiadau a diagnosis cynnar gan ymarferwyr sydd wedi cael hyfforddiant a chymhwyster priodol ac ymyrraeth gynnar yn allweddol er mwyn lleihau’r tebygolrwydd y ceir dirywiad tra bydd rhywun ar restr aros. Mae hyn yn arbennig o bwysig i blant lle gall y rhestrau aros am ddiagnosis fod hyd at 3 blynedd.

Mae angen:

Dylai Llywodraeth newydd Cymru gyflawni’r ymrwymiad yn y Strategaeth Iechyd Meddwl a Llesiant Meddyliol i leihau amserau aros am wasanaethau gan gynnwys drwy ddarparu mynediad i Ofal Iechyd Meddwl Cynnar i Bawb er mwyn gwella eu dull o ymyrryd yn gynnar.

Bydd recriwtio therapyddion CBT sydd wedi cymhwyso a’u hachredu – yn unol â phwynt 2 uchod – yn helpu hefyd gyda lleihau’r rhestrau aros sy’n effeithio ar gannoedd o gleifion yng Nghymru.