Safonau Ymddygiad, Perfformiad a Moeseg

Cliciwch yma i ddarllen ein Safonau yn Saesneg / Click here to read our Standards in English

Eich dyletswyddau fel aelod o BABCP

Y safonau ymddygiad, perfformiad a moeseg y mae’n rhaid i chi gadw atynt

  1. Rhaid i chi weithredu er lles defnyddwyr y gwasanaeth
  2. Rhaid i chi gynnal safonau uchel o ran asesu ac ymarfer
  3. Rhaid i chi barchu cyfrinachedd defnyddwyr y gwasanaeth
  4. Rhaid i chi gadw safonau uchel o ran ymddygiad personol
  5. Rhaid i chi ddarparu (i ni ac i reoleiddwyr a/neu cyrff proffesiynol perthnasol) unrhyw wybodaeth bwysig ynglŷn â’ch ymddygiad a’ch galluogrwydd
  6. Rhaid i chi gadw eich gwybodaeth a’ch sgiliau yn gyfoes
  7. Rhaid i chi weithredu o fewn terfynau eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad ac, os oes angen, cyfeirio’r mater at ymarferydd arall
  8. Rhaid i chi gyfathrebu’n iawn ac yn effeithiol gyda defnyddwyr y gwasanaeth ac ymarferwyr eraill. Fel rhan o’r broses hon, rhaid i chi ddweud wrth bobl sy’n defnyddio’ch gwasanaeth sut gallant gwyno amdanoch chi a’ch ymarfer i BABCP ac unrhyw gyrff rheoleiddio eraill rydych yn atebol iddynt.
  9. Rhaid i chi oruchwylio tasgau rydych wedi gofyn i bobl eraill eu cyflawni yn effeithiol
  10. Rhaid i chi gael cydsyniad ar sail gwybodaeth i roi triniaeth (ac eithrio mewn argyfwng)
  11. Rhaid i chi gadw cofnodion cywir
  12. Rhaid i chi ymdrin â risgiau heintio mewn modd teg a diogel
  13. Rhaid i chi gyfyngu eich gwaith neu beidio ag ymarfer os bydd eich iechyd yn effeithio ar eich perfformiad neu’ch crebwyll
  14. Rhaid i chi ymddwyn â gonestrwydd ac uniondeb a gwneud yn siŵr nad yw’ch ymddygiad yn niweidio hyder y cyhoedd ynoch chi neu’ch ymarfer. Yn ogystal, mae gennych gyfrifoldeb proffesiynol i fod yn agored, yn onest ac yn dryloyw gyda chleientiaid, cleifion neu ddefnyddwyr eich gwasanaeth pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le. Y cyfrifoldeb hwn ydy’r ‘Ddyletswydd Gonestrwydd’ broffesiynol.
  15. Rhaid i chi wneud yn siŵr bod unrhyw hysbysebu a wnewch yn gywir

Datganiad Rhagarweiniol

Fel aelod o BABCP, mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn gyfarwydd â’r safonau a’ch bod yn cadw atynt. Os byddwch chi’n gwneud cais am aelodaeth neu Achrediad fel ymarferydd, hyfforddwr neu oruchwylydd CBT, neu Hyfforddwr Rhieni ar Sail Tystiolaeth neu Ymarferydd Llesiant Cofrestredig, gofynnir i chi arwyddo datganiad i gadarnhau eich bod wedi darllen y safonau ac y byddwch yn cadw atynt. Rydym yn defnyddio’r term ‘Unigolyn Cofrestredig’ ar gyfer pawb sydd wedi cofrestru ar Gofrestr CBT y Deyrnas Unedig ac Iwerddon.

Bydd aelodau presennol BABCP eisoes wedi arwyddo datganiad y byddant yn glynu at ‘Canllawiau ar gyfer Ymarfer Da’ BABCP. Mae’r ‘Safonau’ hyn yn disodli’r ‘Canllawiau’ hynny a bernir bod aelodau cyfredol wedi derbyn y ‘Safonau’ hyn.

Mae’n bwysig eich bod yn darllen ac yn deall y ddogfen hon. Os bydd rhywun yn mynegi pryderon ynglŷn â’ch ymarfer, byddwn yn ystyried y safonau hyn (a’n safonau Achredu ar gyfer aelodau sydd wedi’u hachredu) pan fyddwn yn penderfynu a oes angen i ni gymryd unrhyw gamau gweithredu.

Mae hi’n bwysig eich bod yn bodloni safonau BABCP ac yn gallu ymarfer CBT yn ddiogel ac yn effeithiol. Rydym hefyd eisiau gwneud yn siŵr eich bod yn cynnal safonau uchel o ran ymddygiad personol ac nad ydych yn gwneud unrhyw beth a allai effeithio ar hyder y cyhoedd ynoch chi, yn BABCP neu yn unrhyw broffesiwn y gallech fod yn perthyn iddo. Fodd bynnag, nid ydym yn deddfu ynglŷn â sut y dylech fodloni ein safonau.

Mae modd bodloni pob un o’r safonau mewn mwy nag un ffordd fel arfer. Gallai’r ffordd rydych chi’n bodloni ein safonau newid dros amser oherwydd gwelliannau mewn technoleg neu newidiadau yn eich ymarfer.

Fel ymarferydd ymreolus ac atebol, mae angen i chi wneud penderfyniadau rhesymol ar sail gwybodaeth ynglŷn â’ch ymarfer er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn bodloni’r safonau sy’n berthnasol i’ch ymarfer chi. Gallai hynny gynnwys cael cyngor a chefnogaeth gan ddarparwyr addysg, cyflogwyr, eich goruchwylydd clinigol, cydweithwyr a phobl eraill er mwyn gwneud yn siŵr eich bod yn diogelu llesiant defnyddwyr y gwasanaeth bob amser.

Mae llawer o aelodau BABCP yn aelodau hefyd o gyrff proffesiynol a byddant felly yn rhwym i godau ymarfer y proffesiynau hynny. Mae BABCP yn cydnabod y rôl werthfawr y mae cyrff proffesiynol yn ei chwarae yn cynrychioli ac yn hyrwyddo buddiannau eu haelodau. Mae hynny’n aml yn cynnwys darparu canllawiau a chyngor ynglŷn ag ymarfer da, sydd yn gallu eich helpu chi i fodloni eu safonau a’r rhai a geir yn y ddogfen hon.

Disgwylir i holl aelodau BABCP fynd ati i wneud eu gwaith gyda’r nod o ddatrys problemau a hyrwyddo llesiant defnyddwyr y gwasanaeth ac y byddant yn ymdrechu i ddefnyddio eu gallu a’u sgiliau i wasanaethu buddiannau defnyddwyr y gwasanaeth heb ragfarn a thrwy roi’r gydnabyddiaeth ddyledus i werth ac urddas pob bod dynol. Os byddwch chi’n gwneud penderfyniadau rhesymol ar sail gwybodaeth, gyda buddiannau defnyddwyr eich gwasanaeth yn brif ystyriaeth i chi, ac y gallwch chi gyfiawnhau eich penderfyniadau os gofynnir i chi wneud hynny, mae hi’n debygol iawn y byddwch chi’n bodloni ein safonau.

Yr hyn a olygwn drwy ddweud ‘ar sail gwybodaeth’ ydy bod gennych ddigon o wybodaeth i wneud penderfyniad. Byddai hynny’n cynnwys darllen y safonau hyn a rhoi ystyriaeth i unrhyw ganllawiau neu gyfreithiau perthnasol eraill. Yr hyn a olygwn drwy ddweud ‘rhesymol’ ydy bod angen i chi wneud penderfyniadau call, ymarferol ynglŷn â’ch ymarfer, gan roi ystyriaeth i’r holl wybodaeth berthnasol a buddiannau’r bobl sy’n defnyddio neu’n cael eu heffeithio gan eich gwasanaethau. Dylech chi hefyd allu cyfiawnhau eich penderfyniadau os gofynnir i chi wneud hynny.

Drwy gydol y safonau hyn, rydym wedi defnyddio’r term ‘defnyddiwr gwasanaeth’ i gyfeirio at unrhyw un sy’n defnyddio neu’n cael ei effeithio gan ymarfer un o’n haelodau. Bydd pwy ydy defnyddwyr eich gwasanaeth yn dibynnu ar sut a ble byddwch chi’n gweithio. Er enghraifft, os ydych yn gweithio mewn ymarfer clinigol, mae’n debyg mai defnyddwyr eich gwasanaeth fydd eich cleifion/cleientiaid. Mewn rhai amgylchiadau, mae’n bosib mai sefydliadau yn hytrach nag unigolion fydd defnyddwyr eich gwasanaeth. Mae’r term hefyd yn cynnwys pobl eraill y gallai eich ymarfer effeithio arnynt, megis gofalwyr a pherthnasau.

Rydym wedi defnyddio’r gair ‘triniaeth’ yn ei ystyr ehangaf, i gynnwys nifer o weithredoedd y bydd ein haelodau yn eu cyflawni. Gallai’r gweithredoedd hynny gynnwys gweithdrefnau diagnostig, monitro neu asesu, therapi neu gyngor.

Y Safonau Ymddygiad, Perfformiad a Moeseg

1. Rhaid i chi weithredu er lles defnyddwyr y gwasanaeth

1.1 Rydych chi’n gyfrifol yn bersonol am sicrhau eich bod yn hyrwyddo a diogelu buddiannau defnyddwyr eich gwasanaeth. Rhaid i chi barchu a rhoi ystyriaeth i’r ffactorau hyn wrth ddarparu gofal neu wasanaeth, a rhaid i chi beidio â chamddefnyddio’r berthynas sydd gennych gyda defnyddiwr gwasanaeth, yn rhywiol, yn emosiynol, yn ariannol nac mewn unrhyw fodd arall. Gallai rhai ymyriadau olygu y byddwch gyda defnyddwyr y gwasanaeth mewn sefyllfaoedd cymdeithasol, ond rhaid i chi barhau i wahaniaethu’n eglur rhwng perthnasoedd personol a rhai sy’n seiliedig ar eich ymarfer. Os byddwch chi’n darparu triniaeth ar sail breifat, rhaid i chi ei gwneud yn glir i ddefnyddiwr y gwasanaeth o’r cychwyn beth ydy eich ffioedd a’r telerau ac amodau sydd ynghlwm â darparu’r driniaeth gennych chi a defnyddiwr y gwasanaeth sy’n talu amdani.

1.2 Rhaid i chi beidio â chaniatáu i’ch safbwyntiau ynglŷn â nodweddion cleient, claf neu ddefnyddiwr y gwasanaeth effeithio ar y ffordd y byddwch yn eu trin na’r cyngor a roddwch. Mae rhai nodweddion wedi’u diogelu’n gyfreithiol. Rhaid i chi beidio â chymryd bod nodweddion defnyddiwr y gwasanaeth, boed y nodweddion hynny’n rhai gwarchodedig ai peidio, yn israddol i rai eraill a rhaid i chi beidio â cheisio eu newid neu eu llesteirio ar y sail honno. Rhaid i chi drin cleientiaid, cleifion neu ddefnyddwyr y gwasanaeth gyda pharch ac urddas. Os byddwch chi’n darparu gofal, rhaid i chi weithio mewn partneriaeth â defnyddwyr eich gwasanaeth a’u cynnwys yn eu gofal fel y bo’n briodol.

1.3 Rhaid i chi beidio â gwneud unrhyw beth neu fethu â gwneud unrhyw beth, neu ganiatáu i rywun arall wneud unrhyw beth y mae gennych reswm da i gredu y bydd yn peryglu iechyd neu ddiogelwch defnyddiwr y gwasanaeth neu unrhyw un arall. Mae hynny’n cynnwys eich gweithredoedd eich hun a rhai pobl eraill. Dylech chi gymryd camau gweithredu priodol er mwyn diogelu hawliau plant ac oedolion sy’n agored i niwed os byddwch yn credu eu bod dan risg, gan gynnwys dilyn polisïau cenedlaethol a lleol.

1.4 Rydych chi’n gyfrifol am eich ymddygiad wrth ymarfer, ac mewn unrhyw ofal neu gyngor rydych yn eu darparu, ac am unrhyw fethiant i weithredu. Rydych chi’n gyfrifol am briodoldeb eich penderfyniad i ddirprwyo tasg. Rhaid i chi allu cyfiawnhau eich penderfyniadau os gofynnir i chi wneud hynny.

1.5 Rhaid i chi ddiogelu defnyddwyr y gwasanaeth neu bobl eraill os byddwch chi’n credu bod unrhyw sefyllfa’n eu rhoi mewn perygl. Mae hynny’n cynnwys ymddygiad, perfformiad neu iechyd cydweithiwr. Rhaid i ddiogelwch defnyddwyr y gwasanaeth gael blaenoriaeth dros unrhyw deyrngarwch arall bob amser. Cyn gynted ag y byddwch chi’n dod i wybod am sefyllfa sy’n rhoi defnyddiwr gwasanaeth neu rywun arall mewn perygl, dylech chi drafod y mater gyda’ch goruchwylydd clinigol, uwch-gydweithiwr neu unigolyn priodol arall.

1.6 P’un ai ydynt yn gyflogedig neu’n gweithio mewn Ymarfer Annibynnol, mae Unigolion Cofrestredig yn gyfrifol am sicrhau bod ganddynt yswiriant indemniad proffesiynol digonol, cyfredol a pharhaus ar gyfer eu hymarfer.

2.1 Rhaid i chi sicrhau y bydd unrhyw weithdrefnau ymyrryd a gaiff eu mabwysiadu yn seiliedig ar werthusiad ac asesiad o ddefnyddiwr y gwasanaeth a’r amgylchedd. Rhaid i chi sicrhau hefyd y bydd unrhyw asesiadau/triniaethau er lles defnyddiwr y gwasanaeth.

2.2 Rhaid eich bod bob amser yn gallu cyfiawnhau asesiadau/triniaethau drwy ddefnyddio’r dystiolaeth sydd ar gael yn y parth cyhoeddus.

2.3 Rhaid i chi gynllunio a gweithredu asesiadau/triniaethau yn y fath fodd y gellir gwerthuso effeithiolrwydd.

2.4 Rhaid i chi drafod a chytuno ar nodau ac amcanion asesiadau/triniaethau gyda defnyddwyr y gwasanaeth yn y man cychwyn a gellir aildrafod, terfynu, neu atgyfeirio at weithiwr arall ar gais y naill barti neu’r llall os nad yw’r amcanion yn cael eu cyflawni ar ôl cyfnod rhesymol o amser neu os byddant yn ymddangos yn amhriodol yn ddiweddarach.

2.5 Os gofynnir i ddefnyddiwr y gwasanaeth gael eu profi neu eu cyfweld fel rhan o brosiect ymchwil, rhaid i chi sicrhau eich bod yn dilyn canllawiau unrhyw ddeddfau Galluedd Meddyliol ac unrhyw ganllawiau eraill perthnasol.

3.1 Rhaid i chi drin gwybodaeth am ddefnyddwyr y gwasanaeth yn gyfrinachol a’i defnyddio at y dibenion y maent wedi ei darparu yn unig.  Rhaid i chi beidio â rhyddhau yn fwriadol unrhyw wybodaeth bersonol neu gyfrinachol i unrhyw un nad oes hawl ganddynt i’w derbyn, a dylech wirio bod gan bobl sy’n gofyn am wybodaeth hawl i’w derbyn.

3.2 Dim ond er mwyn gofalu am yr unigolyn dan sylw y dylech ddefnyddio gwybodaeth am ddefnyddiwr y gwasanaeth; neu at ddibenion lle bydd yr unigolyn dan sylw wedi rhoi caniatâd penodol i chi ddefnyddio’r wybodaeth. Ymhlith yr enghreifftiau lle dylid ceisio caniatâd penodol o’r fath, mae: gwybodaeth a ddarparwyd at ddibenion ymchwil • caiff y defnyddiwr gwasanaeth eu cyflwyno i unigolyn neu grŵp at ddibenion addysgu neu oruchwylio ac fe’i gwneir yn eglur na fyddai gwrthod yn peri unrhyw oblygiadau o ran ymyriad • gwneir recordiad ac mae’r cydsyniad yn nodi a ellir defnyddio’r recordiad gyda (a) gweithwyr proffesiynol; (b) myfyrwyr; (c) lleygwyr yn y cyhoedd.

3.3 Os bydd ymyriad yn cael ei gyhoeddi, caiff manylion defnyddwyr y gwasanaeth eu cyfyngu i gyn lleied ag y mae eu hangen ar gyfer disgrifio’r ymyriad.

3.4 Rhaid i chi hefyd gadw at amodau unrhyw gyfreithiau diogelu data perthnasol a dilyn arferion gorau bob amser ar gyfer ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol. Mae’r arferion gorau yn debygol o newid dros amser, a rhaid i chi gadw at y diweddaraf.

4.1 Rhaid i chi gadw safonau uchel o ran ymddygiad personol, yn ogystal ag ymddygiad wrth ymarfer. Dylech chi fod yn ymwybodol y gall ymddygiad gwael oddi allan i’ch ymarfer effeithio ar hyder rhywun ynoch chi, yn eich ymarfer, neu yn BABCP.

5.1 Rhaid i chi roi gwybod i BABCP ar unwaith (ac i unrhyw reoleiddwyr/cyrff proffesiynol/cyflogwr perthnasol) os oes gennych wybodaeth bwysig ynglŷn â’ch ymddygiad neu’ch galluogrwydd, neu am therapyddion a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill sy’n gweithio gyda chi. Yn benodol, rhaid i chi roi gwybod i ni ar unwaith os byddwch chi:

  • yn destun ymchwiliad oherwydd honiad i chi gyflawni trosedd ddifrifol, gan gynnwys trais, cam-drin, camymddygiad rhywiol, cyflenwi cyffuriau yn anghyfreithlon, cam-drin plant yn rhywiol neu mewn perthynas â throsedd sy’n cynnwys anonestrwydd;
  • yn cael eich dyfarnu’n euog o drosedd, yn derbyn rhyddhad amodol am drosedd, neu os byddwch yn derbyn rhybudd gan yr heddlu;
  • yn cael eich disgyblu gan unrhyw sefydliad sy’n gyfrifol am reoleiddio neu drwyddedu proffesiwn gofal iechyd neu ofal cymdeithasol; neu
  • yn cael eich gwahardd neu’ch gosod dan gyfyngiad ymarfer gan gyflogwr neu sefydliad tebyg oherwydd pryderon ynglŷn â’ch ymddygiad neu’ch galluogrwydd.

5.2 Dylech chi gydweithredu ag unrhyw archwiliad neu ymchwiliad ffurfiol i’ch ymddygiad sy’n berthnasol i’ch ymarfer, i ymddygiad unrhyw ddarparwr gofal iechyd arall neu i driniaeth defnyddiwr gwasanaeth, lle bo hynny’n briodol.  Os bydd unrhyw un yn gofyn am wybodaeth berthnasol mewn cysylltiad â’ch ymddygiad neu’ch galluogrwydd, a bod hawl ganddynt i’w chael, dylech chi ddarparu’r wybodaeth.

5.3 Gallwn ni gymryd camau yn eich erbyn chi os cewch chi eich dyfarnu’n euog o drosedd neu os byddwch wedi derbyn rhybudd gan yr heddlu. Byddwn ni bob amser yn ystyried pob achos yn unigol er mwyn penderfynu a oes angen i ni gymryd unrhyw gamau gweithredu i ddiogelu’r cyhoedd.

5.4 Fodd bynnag, byddwn yn ystyried eich diarddel o’r Gymdeithas os cewch eich dyfarnu’n euog o drosedd neu os derbyniwch chi rybudd gan yr heddlu sy’n ymwneud ag un o’r mathau canlynol o ymddygiad:

  • Trais
  • Cam-drin
  • Camymddygiad rhywiol
  • Cyflenwi cyffuriau yn anghyfreithlon
  • Cam-drin plant yn rhywiol
  • Troseddau sy’n cynnwys anonestrwydd
  • Troseddau y cawsoch ddedfryd o garchar ar eu cyfer

Nid yw hon yn rhestr llawn. Byddwn bob amser yn edrych ar unrhyw euogfarnau neu rybuddion heddlu y down i wybod amdanynt.

6.1 Rhaid i chi wneud yn siŵr bod eich gwybodaeth, eich sgiliau a’ch perfformiad o safon dda, yn gyfoes, ac yn berthnasol i gwmpas eich ymarfer.

6.2 Rhaid eich bod yn alluog i fodloni’r safonau hyfedredd sy’n berthnasol i gwmpas eich ymarfer. Rydym yn cydnabod y gall cwmpas eich ymarfer newid dros amser.

6.3 Rydym yn cydnabod bod aelodau’n gweithio mewn ystod o leoliadau gwahanol, gan gynnwys addysg, ymchwil ac ymarfer clinigol. Mae angen i chi wneud yn siŵr, beth bynnag fo maes eich ymarfer, eich bod yn alluog i ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol. Dylai hynny, a datblygiad eich ymarfer, gael eu hwyluso drwy dderbyn goruchwyliaeth berthnasol reolaidd gan rywun sydd â chymwysterau a phrofiad priodol.

6.4 Mae BABCP yn gosod safonau ar gyfer datblygiad proffesiynol parhaus a goruchwylio clinigol, a dylai ymarferwyr PWP, CBT, ac EBPTP fodloni’r safonau hynny. Os ydych wedi’ch Achredu gyda ni, mae’r safonau hyn yn cysylltu eich dysgu a’ch datblygu a’ch goruchwyliaeth glinigol â pharhad eich Achrediad. Mae angen hefyd i chi fodloni’r safonau hyn.

7.1 Rhaid i chi gadw o fewn cwmpas eich ymarfer. Mae hyn yn golygu mai yn y meysydd y mae gennych addysg, hyfforddiant a phrofiad priodol yn unig y dylech ymarfer. Rydym yn cydnabod y gall cwmpas eich ymarfer newid dros amser.

7.2 Pan fyddwch yn derbyn defnyddiwr gwasanaeth, mae gennych ddyletswydd gofal. Mae hynny’n cynnwys dyletswydd i’w cyfeirio at driniaeth bellach os daw’n eglur bod y dasg y tu hwnt i gwmpas eich ymarfer eich hun. Os byddwch chi’n cyfeirio defnyddiwr gwasanaeth at ymarferydd arall, rhaid i chi wneud yn siŵr bod yr atgyfeiriad yn un priodol a bod defnyddiwr y gwasanaeth yn deall pam rydych yn gwneud yr atgyfeiriad.

7.3 Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, mae gan unigolyn yr hawl i gael eu hatgyfeirio at ymarferydd arall i gael ail farn. Yn yr achosion hyn, rhaid i chi dderbyn y cais a gwneud yr atgyfeiriad cyn gynted ag y gallwch.

7.4 Os byddwch chi’n derbyn atgyfeiriad gan ymarferydd arall, rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn deall y cais yn llawn. Dim ond os byddwch chi’n credu ei bod yn briodol y dylech chi ddarparu’r driniaeth. Os na fyddwch chi’n credu hynny, rhaid i chi drafod yr atgyfeiriad gyda’r ymarferydd a wnaeth yr atgyfeiriad, ac â defnyddiwr y gwasanaeth hefyd, cyn i chi ddechrau ar unrhyw driniaeth neu ddarparu unrhyw gyngor.

8.1 Rhaid i chi gymryd pob cam rhesymol i wneud yn siŵr y gallwch chi gyfathrebu’n iawn ac yn effeithiol gyda defnyddwyr y gwasanaeth. Rhaid i chi gyfathrebu mewn modd priodol, cydweithredu, a rhannu eich gwybodaeth a’ch arbenigedd gydag ymarferwyr eraill, er budd defnyddwyr y gwasanaeth.

8.2 Rhaid bod gennych broses ar waith i sicrhau y byddai camau gweithredu priodol yn cael eu cymryd petaech yn peidio â bod ar gael yn annisgwyl, er enghraifft, oherwydd salwch difrifol, marwolaeth, gwaharddiad neu ddiswyddiad. Cyfeirir at hyn weithiau fel ‘ewyllys glinigol’. Mae’r trefniadau yn cynnwys nodi pwy fydd yn gyfrifol am roi gwybod a threfnu cefnogaeth i’ch cleientiaid os byddwch yn sydyn yn peidio â bod ar gael, a sicrhau y bydd unrhyw unigolyn neu sefydliad perthnasol arall, megis asiantaeth atgyfeirio, hefyd yn cael gwybod. Mae’n bosib y bydd gan gyflogwyr bolisi i wneud yn siŵr bod hyn yn digwydd, rhaid i ymarferwyr annibynnol drefnu hyn eu hunain. Rhaid i therapyddion ddatgan bod ganddynt drefniadau ar waith ar gyfer eu hymarfer.

9.1 Mae gan bobl sy’n cael ymgynghoriad â chi neu sy’n derbyn triniaeth neu wasanaethau gennych yr hawl i dybio y bydd unigolyn sydd â gwybodaeth a sgiliau priodol yn cynnal eu triniaeth neu’n darparu gwasanaethau. Pryd bynnag y byddwch yn dirprwyo tasgau i unigolyn arall i’w cyflawni ar eich rhan, megis i ymarferydd dan hyfforddiant neu gynorthwy-ydd, rhaid i chi wneud yn siŵr bod y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad ganddynt i gyflawni’r tasgau yn ddiogel ac yn effeithiol. Rhaid i chi beidio â gofyn iddynt wneud gwaith sydd y tu hwnt i gwmpas eu hymarfer.

9.2 Rhaid i chi barhau bob amser i roi goruchwyliaeth briodol i bwy bynnag rydych yn gofyn iddynt gyflawni tasg. Chi fydd yn dal yn gyfrifol am briodoldeb y penderfyniad i ddirprwyo. Os bydd rhywun yn dweud wrthych nad ydynt yn fodlon cyflawni tasg oherwydd nad ydynt yn meddwl eu bod yn alluog i wneud hynny’n ddiogel ac yn effeithiol, rhaid i chi beidio â’u gorfodi i gyflawni’r dasg beth bynnag. Os bydd y ffaith eu bod yn gwrthod yn codi mater sy’n ymwneud â disgyblu neu hyfforddi, rhaid i chi ddelio â hynny ar wahân, ond ni ddylech beryglu diogelwch defnyddiwr y gwasanaeth.

9.3 Nid yw’r goruchwylio a grybwyllir yn yr adran hon yn berthnasol i sefyllfaoedd lle byddwch chi wedi atgyfeirio defnyddiwr y gwasanaeth at ymarferydd arall, fel y’i disgrifir yn Adran 7 uchod. Nid yw’n berthnasol chwaith i oruchwyliaeth glinigol y gallech chi fod yn ei darparu i gydweithwyr sy’n gweithio gyda defnyddwyr gwasanaeth eraill.

10.1 Rhaid i chi egluro wrth ddefnyddiwr y gwasanaeth pa driniaeth rydych yn bwriadu ei chynnal, yr amcanion, y rhesymeg, y risgiau sydd yn gysylltiedig ac unrhyw driniaethau amgen. Rhaid i chi egluro hefyd os byddwch chi’n gweld defnyddiwr gwasanaeth ar gyfer gweithdrefnau gwerthuso neu ddiagnostig yn unig. Os yw’r driniaeth yn arbrofol yn hytrach nag yn un sefydledig sydd wedi’i phrofi, rhaid i chi egluro hynny wrth ddefnyddiwr y gwasanaeth hefyd cyn ceisio cydsyniad. Rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn cael eu cydsyniad ar sail gwybodaeth i unrhyw driniaeth y byddwch yn ei chynnal. Rhaid i chi greu cofnod o benderfyniadau’r unigolyn ynglŷn â thriniaeth a throsglwyddo hwn i aelodau eraill o’r tîm gofal iechyd neu ofal cymdeithasol sy’n ymwneud â’u gofal.

10.2 Mewn argyfyngau, efallai na fyddwch yn gallu egluro triniaeth, cael cydsyniad neu drosglwyddo gwybodaeth i aelodau eraill o’r tîm gofal iechyd neu ofal cymdeithasol. Fodd bynnag, dylech ddal ati i geisio gwneud yr holl bethau hynny i’r graddau y gallwch a chael cydsyniad ôl-weithredol cyn gynted ag y bydd yn ymarferol.

10.3 Deellir bod cydsynio i driniaeth yn broses barhaus sydd yn rhoi’r pwyslais ar rôl defnyddiwr y gwasanaeth yn gwerthuso’r driniaeth yn barhaus.

10.4 Ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth nad ydynt yn gallu rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion unrhyw ddeddfau Galluedd Meddyliol perthnasol a chanllawiau eraill perthnasol.

10.5 Mae gan unigolyn sydd â’r gallu i roi eu cydsyniad yr hawl i wrthod triniaeth. Rhaid i chi barchu’r hawl honno. Rhaid i chi wneud yn siŵr hefyd eu bod yn gwbl ymwybodol o’r risgiau o wrthod triniaeth, yn enwedig os byddwch chi’n meddwl bod risg sylweddol neu risg ar unwaith i’w bywyd neu i fywydau pobl eraill. Rhaid i chi roi ystyriaeth lawn i Safon 1 y ddogfen hon ynglŷn â defnyddiwr gwasanaeth neu bobl eraill a allai fod mewn perygl a rhaid i chi sicrhau eich bod yn cydymffurfio â gofynion unrhyw ddeddfau Galluedd Meddyliol perthnasol ac unrhyw ganllawiau eraill perthnasol.

10.6 Rhaid i chi gadw at weithdrefnau eich cyflogwyr ynglŷn â chydsyniad a bod yn ymwybodol o unrhyw ganllawiau a gyhoeddwyd gan yr awdurdod priodol yn y wlad lle rydych yn ymarfer.

11.1 Mae creu a chadw cofnodion yn rhan hanfodol o ofal a rhaid i chi gadw cofnodion ar gyfer pawb y byddwch yn eu trin neu sy’n gofyn am eich cyngor neu’ch gwasanaethau. Rhaid i chi gwblhau pob cofnod yn brydlon. Os ydych chi’n defnyddio cofnodion papur, rhaid eu bod wedi’u hysgrifennu’n glir ac yn hawdd eu darllen, a dylech chi ysgrifennu, llofnodi a rhoi’r dyddiad ar bob cofnod.

11.2 Mae gennych ddyletswydd i wneud yn siŵr, i’r graddau y bo modd, bod cofnodion a gwblheir gan fyfyrwyr sy’n cael eu goruchwylio gennych wedi’u hysgrifennu’n glir, yn gywir ac mewn modd priodol.

11.3 Pryd bynnag y byddwch chi’n adolygu cofnodion, dylech eu diweddaru a chynnwys cofnod o unrhyw drefniadau rydych wedi’u gwneud ar gyfer parhad gofal defnyddiwr y gwasanaeth.

11.4 Rhaid i chi ddiogelu gwybodaeth mewn cofnodion rhag cael ei cholli na’i difrodi, rhag i unrhyw un sydd heb awdurdod priodol ei chyrchu, a rhag ymyrraeth. Os byddwch chi’n diweddaru cofnod, rhaid i chi beidio â dileu unrhyw wybodaeth a oedd yno’n flaenorol, na gwneud y wybodaeth honno’n anodd ei darllen. Yn hytrach, rhaid i chi ei marcio mewn rhyw fodd (er enghraifft, drwy dynnu llinell drwy’r hen wybodaeth).

12.1 Rhaid i chi beidio â gwrthod trin rhywun ar y sail bod ganddynt haint yn unig. Hefyd, rhaid i chi gadw at reolau cyfrinachedd pan fyddwch yn ymdrin â phobl sydd â heintiau. Ar gyfer rhai heintiau, megis heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gallai’r rheolau hyn fod yn fwy cyfyngol na rheolau cyfrinachedd ar gyfer pobl mewn amgylchiadau eraill. Trafodwyd cyfrinachedd yn fwy manwl yn gynharach yn y ddogfen hon.

12.2 Rhaid i chi gymryd rhagofalon er mwyn diogelu defnyddwyr eich gwasanaeth a’ch hunan rhag heintiau fel y bo’n briodol ar gyfer y driniaeth y byddwch yn ei chynnal. Yn benodol, dylech ddiogelu defnyddwyr eich gwasanaeth rhag heintio ei gilydd. Rhaid i chi gymryd rhagofalon rhag y risg y byddwch chi’n heintio rhywun.

12.3 Mae hyn yn arbennig o bwysig os byddwch chi’n amau neu’n gwybod bod haint arnoch chi a allai niweidio pobl eraill. Os byddwch chi’n credu neu’n gwybod y gall y math yma o haint fod arnoch chi, rhaid i chi gael cyngor meddygol a gweithredu ar ei sail. Gallai hynny gynnwys yr angen i chi roi’r gorau i ymarfer yn gyfan gwbl, neu i chi newid eich ymarfer mewn rhyw fodd er mwyn diogelu defnyddwyr eich gwasanaeth.

13.1 Mae gennych ddyletswydd i weithredu petai’n bosib bod eich iechyd corfforol neu feddyliol yn amharu ar eich addasrwydd i ymarfer. Dylech chi gael cyngor gan ymgynghorydd mewn iechyd galwedigaethol neu ymarferydd meddygol arall sydd â chymwysterau addas, a gweithredu ar sail y cyngor hwnnw. Dylai’r cyngor hwn ystyried a ddylech chi newid eich ymarfer, ac ym mha fodd, gan gynnwys rhoi’r gorau i ymarfer petai angen.

14.1 Mae Dyletswydd Gonestrwydd yn elfen hanfodol o ddarparu gwasanaethau proffesiynol a gofal. Caiff hynny ei adlewyrchu yn ein polisïau a’n dogfennau ac yn ethos ein sefydliad.

14.2 Mae’r Ddyletswydd Gonestrwydd yn berthnasol o ddechrau i ddiwedd y berthynas therapiwtig. Fodd bynnag, mae’n arbennig o berthnasol pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le.

14.3 Os bydd rhywbeth yn mynd o’i le yn ystod eich gwaith gyda chleient, claf neu ddefnyddiwr y gwasanaeth, mae gan Unigolion Cofrestredig ddyletswydd i ddweud wrthynt ac i ymddiheuro. Dylai Unigolion Cofrestredig ymddiheuro am unrhyw niwed a achoswyd, beth bynnag fo’r sefyllfa o ran bai, a bod yn agored a thryloyw ynglŷn â’r hyn sydd wedi digwydd.

14.4 Mae ymddiheuro yn rhan bwysig o Ddyletswydd Gonestrwydd a dyma’r peth iawn i’w wneud bob amser.  Nid yw’n gyfaddefiad o atebolrwydd ac ni fydd yn effeithio ar yswiriant indemniad. Ond mae’n bwysig oherwydd ei fod yn galluogi camau i drwsio’r berthynas rhwng yr Unigolyn Cofrestredig a’r cleient. Mae’r cleient yn derbyn gwir ymddiheuriad am yr hyn sydd wedi digwydd ac mae modd cymryd camau i atal y camgymeriad rhag digwydd eto.

14.5 Mae gan Unigolion Cofrestredig gyda’r BABCP ddyletswydd gonestrwydd hefyd i fod yn agored, yn onest ac yn dryloyw gyda chyflogwyr, Goruchwylwyr Clinigol a Darparwyr Addysg pan fydd rhywbeth yn mynd o’i le.

14.6 Rhaid i chi gyfiawnhau’r ymddiriedaeth sy’n cael ei roi ynoch chi drwy weithredu gyda gonestrwydd ac uniondeb bob amser. Rhaid i chi beidio â bod â rhan mewn unrhyw ymddygiad neu weithgaredd sy’n debygol o niweidio hyder y cyhoedd ynoch chi, yn eich ymarfer, neu yn BABCP.

15.1 Dim ond os ydych yn Unigolyn Cofrestredig cyfredol ar Gofrestr CBT y Deyrnas Unedig ac Iwerddon y cewch gyfeirio at eich aelodaeth o BABCP er mwyn cyfleu statws neu gymhwyster. Mae hynny’n cynnwys bod wedi’ch Achredu gan BABCP fel Seicotherapydd Gwybyddol Ymddygiadol / Hyfforddwr / Goruchwylydd Clinigol,  Hyfforddwr Rhieni ar Sail Tystiolaeth neu Ymarferydd Llesiant Cofrestredig.

15.2 Rhaid i unrhyw hysbysebu a wnewch mewn perthynas â’ch gweithgareddau ymarfer fod yn gywir. Rhaid i hysbysebion beidio â bod yn gamarweiniol, yn anwir, yn annheg neu’n gorliwio. Yn benodol, ni ddylech honni bod eich sgiliau personol, eich cyfarpar neu’ch cyfleusterau yn well na rhai rhywun arall, oni bai y gallwch brofi bod hynny’n wir.

15.3 Os byddwch chi’n ymwneud â hysbysebu neu hyrwyddo unrhyw gynnyrch neu wasanaeth, rhaid i chi wneud yn siŵr eich bod yn defnyddio eich gwybodaeth, sgiliau a phrofiad mewn modd cywir a chyfrifol. Rhaid i chi beidio â gwneud na chefnogi datganiadau nad oes modd eu cyfiawnhau ynglŷn â chynhyrchion penodol. Ni ddylai unrhyw wobr ariannol fod â rhan yn y cyngor neu’r argymhellion ynglŷn â chynhyrchion a gwasanaethau y byddwch yn eu rhoi.

Addasrwydd i ymarfer

Pan fyddwn ni’n dweud bod rhywun yn ‘addas i ymarfer’, yr hyn a olygwn ydy eu bod yn meddu ar y sgiliau, y wybodaeth, y cymeriad a’r iechyd i ymarfer yn ddiogel ac yn effeithiol o fewn cwmpas eu hymarfer.

Rydym yn ystyried cwynion am aelodau BABCP gan aelodau o’r cyhoedd, cyflogwyr, gweithwyr proffesiynol, a phobl eraill ac yn cymryd camau gweithredu er mwyn diogelu’r cyhoedd.

Os bydd yr aelod yn gofrestredig, neu’n aelod, gyda sefydliad sydd naill ai’n statudol neu’n wirfoddol yn rheoleiddio’r aelod dan sylw, yna bydd BABCP yn cyfeirio unrhyw gŵyn at y sefydliad hwnnw. Ar gyfer cwynion ynglŷn ag unrhyw aelodau eraill, ymdrinnir â’r rhain drwy ‘Weithdrefnau Cwynion a Disgyblu’ BABCP.

Pan fyddwn yn ystyried cwyn ynglŷn ag aelod, byddwn yn ystyried a yw’r safonau wedi cael eu bodloni pan fyddwn yn penderfynu a oes angen i ni gymryd unrhyw gamau gweithredu i ddiogelu’r cyhoedd. Byddwn hefyd yn rhoi ystyriaeth i unrhyw ganllawiau neu godau ymarfer a luniwyd gan gyrff a sefydliadau proffesiynol.

Pan fydd BABCP yn ystyried y gŵyn drwy ei gweithdrefnau, gall y canlyniad gynnwys rhoi rhybudd i’r aelod, gosod amodau ar eu haelodaeth/cofrestriad, neu, yn yr achosion mwyaf difrifol, dileu eu haelodaeth neu atal eu Hachrediad. Yn ychwanegol at hynny, gallai cyrff rheoleiddio allanol fod yn gallu eu hatal neu eu diarddel rhag ymarfer.

(Mabwysiadwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol BABCP ar 16 Gorffennaf 2009; diwygiwyd 5 Rhagfyr 2022)